SL(6)728 – Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 13 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, sy'n darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer caffaeliadau sy'n ymwneud ag anheddau lluosog (a elwir yn rhyddhad anheddau lluosog).

Mae rheoliad 2 yn diwygio paragraff 6 o Atodlen 13 i gynyddu isafswm y dreth trafodiadau tir y mae​ rhaid ei thalu pan hawlir rhyddhad anheddau lluosog o 1% o’r gydnabyddiaeth sydd i’w​ phriodoli i anheddau a brynir i 3% o’r gydnabyddiaeth honno.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n darparu nad yw'r Rheoliadau yn effeithio ar drafodiadau tir y rhoddir effaith iddynt yn unol â chontract yr ymrwymir ​iddo neu a gyflawnir yn sylweddol cyn 13 Chwefror 2026, yn ddarostyngedig i amodau​ penodol.

Gweithdrefn

Gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn darparu bod rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â threthi datganoledig, gan gynnwys y dreth trafodiadau tir a gesglir, i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu cymhwysiad rhyddhad (rhyddhad anheddau lluosog) rhag treth trafodiadau tir fel y disgrifir uchod.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

2 Chwefror 2026